Isaiah 59:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sêl fel cochl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwisgodd gyfiawnder fel arfwisg, ac achubiaeth yn helmed ar ei ben. Rhoddodd ddillad dial amdano, a gwisgo sêl fel mantell.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; gwisgodd ddillad dialedd, a rhoi eiddigedd fel mantell amdano.