Isaiah 59:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr ARGLWYDD: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a'm geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o'th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr ARGLWYDD, o hyn allan byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fy ymrwymiad i iddyn nhw, meddai'r ARGLWYDD: “Bydd fy Ysbryd i arnat ti, a fydd y neges dw i wedi ei rhoi i ti ddim yn dy adael di; byddi di a dy blant, a phlant dy blant, yn ei chofio o hyn allan ac am byth.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dyma," medd yr ARGLWYDD, "fy nghyfamod hwy. Bydd fy ysbryd i arnat, a gosodaf fy ngeiriau yn dy enau; nid ymadawant oddi wrthyt nac oddi wrth dy blant, na phlant dy blant, o'r pryd hwn hyd byth," medd yr ARGLWYDD.