Isaiah 59:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does neb yn sefyll dros beth sy'n iawn, a neb sy'n mynd i'r llys yn onest; ond yn dibynnu ar eiriau gwag a chelwydd. Maen nhw'n achosi drygioni ac yn esgor ar drafferthion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes erlynydd teg na diffynnydd gonest, ond y maent yn ymddiried mewn gwegi ac yn llefaru twyll, yn feichiog o niwed ac yn esgor ar ddrygioni.