Isaiah 59:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwirion: eu meddyliau sydd feddyliau anwir; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n rhedeg at y drwg, ac yn barod iawn i ladd pobl ddiniwed. Maen nhw bob amser yn meddwl am wneud drwg, ac yn achosi llanast a dinistr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae eu traed yn rhuthro at gamwedd, ac yn brysio i dywallt gwaed diniwed; bwriadau maleisus yw eu bwriadau, distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd;