Isaiah 6:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw ARGLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o'i ogoniant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud, “Sanctaidd! Sanctaidd! Sanctaidd! yr ARGLWYDD holl-bwerus! Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall, "Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd; y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant."