Isaiah 60:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a'th drethwyr yn gyfiawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n dod ag aur yn lle pres ac arian yn lle haearn; pres yn lle coed a haearn yn lle cerrig. ‛Heddwch‛ fydd yn llywodraethu arnat, a ‛Cyfiawnder‛ fydd dy feistri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn lle pres dygaf aur, yn lle haearn dygaf arian, ac yn lle coed, bres, yn lle cerrig, haearn; gwnaf dy lywodraethwyr yn heddychol a'th feistradoedd yn gyfiawn.