Isaiah 60:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a'th byrth yn Foliant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd neb yn gweiddi ‘Trais!’ yn y wlad byth eto, a fydd dim dinistr o fewn dy ffiniau. Byddi'n galw dy waliau yn ‛Achubiaeth‛ a dy giatiau yn ‛Foliant‛.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni chlywir mwyach am drais yn dy wlad, nac am ddistryw na dinistr o fewn dy derfynau, ond gelwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a'th byrth yn Foliant.