Isaiah 60:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a'r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a'th DDUW yn ogoniant i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd dim angen yr haul i oleuo'r dydd, na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos. Yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Nid yr haul fydd mwyach yn goleuo i ti yn y dydd, ac nid y lleuad fydd yn llewyrchu i ti yn y nos; ond yr ARGLWYDD fydd yn oleuni dibaid i ti, a'th Dduw fydd yn ddisgleirdeb i ti.