Isaiah 60:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti, hyrddod Nebaioth a'th wasanaethant: hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor, a mi a anrhydeddaf dŷ fy ngogoniant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat, a bydd hyrddod Nebaioth yna i ti eu defnyddio; byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i. Bydda i'n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cesglir holl ddefaid Cedar atat, a bydd hyrddod Nebaioth at dy wasanaeth; offrymir hwy'n aberthau derbyniol ar fy allor, ac ychwanegaf at ogoniant fy nhu375? gogoneddus.