Isaiah 60:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ddiau yr ynysoedd a'm disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a'u haur gyda hwynt, i enw yr ARGLWYDD dy DDUW, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu, a llongau masnach Tarshish ar y blaen. Maen nhw'n dod â dy blant o bell, a'u harian a'u haur hefo nhw, i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD dy Dduw — Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu, a llongau Tarsis ar y blaen, i ddod 'th blant o bell, a'u harian a'u haur gyda hwy, er anrhydedd i'r ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel; oherwydd y mae wedi dy ogoneddu.