Isaiah 61:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan lawenychu y llawenychaf yn yr ARGLWYDD, fy enaid a orfoledda yn fy NUW: canys gwisgodd fi â gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd fi â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch â'i thlysau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD yn fy ngwneud i mor llawen, ac mae fy Nuw yn fy ngwefreiddio i. Mae e wedi fy ngwisgo ag achubiaeth a rhoi cyfiawnder yn fantell o'm cwmpas. Dw i fel priodfab yn gwisgo twrban hardd, neu briodferch wedi ei haddurno â'i thlysau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llawenychaf yn fawr yn yr ARGLWYDD, gorfoleddaf yn fy Nuw; canys gwisgodd amdanaf wisgoedd iachawdwriaeth, taenodd fantell cyfiawnder drosof, fel y bydd priodfab yn gwisgo'i dorch, a phriodferch yn ei haddurno'i hun 'i thlysau.