Isaiah 61:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys megis y gwna y ddaear i'w gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd i'w hadau egino, felly y gwna yr Arglwydd IOR i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel mae planhigion yn tyfu o'r ddaear, a ffrwythau'n tyfu yn yr ardd, bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud i gyfiawnder a moliant dyfu yng ngŵydd y cenhedloedd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y gwna'r ddaear i'r blagur dyfu, a'r ardd i'r hadau egino, felly y gwna'r ARGLWYDD Dduw i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.