Isaiah 61:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I osod i alarwyr Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr ARGLWYDD, fel y gogonedder ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac i roi i alarwyr Seion dwrban ar eu pennau yn lle lludw, ac olew llawenydd yn lle galar, mantell mawl yn lle ysbryd anobaith. Byddan nhw'n cael eu galw yn goed hardd, wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i arddangos ei ysblander.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.