Isaiah 61:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn lle eich cywilydd y cewch ddauddyblyg; ac yn lle gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan: am hynny yn y tir y meddiannant ran ddwbl; llawenydd tragwyddol fydd iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn lle'r cywilydd byddwch chi'n derbyn siâr ddwbl, ac yn lle'r gwarth byddwch chi'n dathlu yn eich etifeddiaeth. Felly, byddan nhw'n etifeddu siâr ddwbl yn eu tir, ac yn profi llawenydd fydd yn para am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn lle'r rhan ddwbl o gywilydd, yn lle'r gwarth a'r cwynfan a ddaeth i'w rhan, fe etifeddant ran ddwbl yn eu gwlad, a chael llawenydd di-baid.