Isaiah 62:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyniweiriwch, cyniweiriwch trwy y pyrth: paratowch ffordd y bobl; palmentwch, palmentwch briffordd; digaregwch hi: cyfodwch faner i'r bobloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dowch i mewn! Dowch i mewn drwy'r giatiau! Cliriwch y ffordd i'r bobl ddod! Adeiladwch! Adeiladwch briffordd! Symudwch bob carreg sy'n rhwystr! Codwch faner dros y bobloedd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ewch i mewn, ewch i mewn drwy'r pyrth, paratowch ffordd i'r bobloedd; codwch briffordd a symudwch y cerrig, dyrchafwch arwydd i'r bobloedd.