Isaiah 62:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, yr ARGLWYDD a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaear, Dywedwch wrth ferch Seion, Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod, wele ei gyflog gydag ef, a'i waith o'i flaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn drwy'r byd i gyd: “Dwedwch wrth Seion annwyl, ‘Edrych! Mae dy Achubwr yn dod! Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae'n dod a'i roddion o'i flaen.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywch, cyhoeddodd yr ARGLWYDD i bellafoedd y ddaear, "Dywedwch wrth ferch Seion, 'Y mae dy achubydd yn dyfod; y mae ei wobr yn ei law, ac y mae ei dl ganddo.'"