Isaiah 62:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a'th dir, Beula: canys y mae yr ARGLWYDD yn dy hoffi, a'th dir a briodir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gei di byth eto yr enw ‛Gwrthodedig‛, a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn ‛Anialwch‛. Na, byddi'n cael dy alw ‛Fy hyfrydwch‛, a bydd dy wlad yn cael yr enw ‛Fy mhriod‛. Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti, a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni'th enwir mwyach, Gwrthodedig, ac ni ddywedir drachefn am dy wlad, Anghyfannedd; eithr enwir di, Heffsiba, a'th wlad, Beula, oherwydd ymhyfryda'r ARGLWYDD ynot, a phriodir dy wlad.