Isaiah 62:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn, y prioda dy feibion dydi; ac â llawenydd priodfab am briodferch, y llawenycha dy DDUW o'th blegid di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel mae bachgen yn priodi merch ifanc, bydd dy blant yn dy briodi di; ac fel mae priodfab wrth ei fodd gyda'i wraig, bydd dy Dduw wrth ei fodd gyda ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y bydd llanc yn priodi merch ifanc, bydd dy adeiladydd yn dy briodi di; fel y bydd priodfab yn llawen yn ei briod, felly y bydd dy Dduw yn llawen ynot ti.