Isaiah 63:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy ydy hwn sy'n dod o Edom — o Bosra a'i ddillad yn goch? Pwy ydy'r un, yn ei wisgoedd brenhinol, sy'n martsio'n hyderus a diflino. “Fi ydy e, sy'n cyhoeddi cyfiawnder; yr un sy'n gallu achub.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy yw hwn sy'n dod o Edom, yn dod o Bosra, a'i ddillad yn goch; y mae ei wisg yn hardd, a'i gerddediad yn llawn o nerth? "Myfi yw, yn cyhoeddi cyfiawnder, ac yn abl i waredu."