Isaiah 63:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y disgyn anifail i'r dyffryn, y gwna Ysbryd yr ARGLWYDD iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw, fel gwartheg yn mynd i lawr i'r dyffryn. Dyna sut wnest ti arwain dy bobl a gwneud enw gwych i ti dy hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
mor sicr eu troed ag ych yn mynd i lawr i'r dyffryn y tywysodd ysbryd yr ARGLWYDD hwy. Felly yr arweiniaist dy bobl, a gwneud iti enw ardderchog.