Isaiah 63:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na'n cydnebydd Israel: ti, ARGLWYDD, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd; dy enw sydd erioed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
achos ti ydy'n Tad ni! Hyd yn oed petai Abraham ddim yn cymryd sylw, ac Israel ddim yn ein nabod ni, ti ydy'n Tad ni, O ARGLWYDD! Ti ydy'r Un sy'n ein rhyddhau ni! — dyna dy enw di ers y dyddiau hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd ti yw ein tad. Er nad yw Abraham yn ein hadnabod, nac Israel yn ein cydnabod, tydi, yr ARGLWYDD, yw ein tad, Ein Gwaredydd yw dy enw erioed.