Isaiah 64:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthiasom ni oll; a'n hanwireddau, megis gwynt, a'n dug ni ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan, mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron. Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen, Ac mae'n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethom i gyd fel peth aflan, a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron; yr ydym i gyd wedi crino fel deilen, a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt.