Isaiah 65:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele, fy ngweision a fwytânt, a chwithau a newynwch: wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawenychant, a chwithau a fydd cywilydd arnoch:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd fy ngweision yn bwyta, a chi'n llwgu. Bydd fy ngweision yn yfed, a chi'n sychedu. Bydd fy ngweision yn llawen, a chi'n cael eich cywilyddio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: "Edrychwch, bydd fy ngweision yn bwyta a chwithau'n newynu; bydd fy ngweision yn yfed a chwithau'n sychedu; bydd fy ngweision yn llawenhau a chwithau'n cywilyddio;