Isaiah 65:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd babis bach ddim yn marw'n ifanc, na phobl mewn oed yn marw'n gynnar. Bydd rhywun sy'n marw yn gant oed yn cael ei ystyried yn llanc ifanc, a'r un sy'n marw heb gyrraedd y cant yn cael ei ystyried dan felltith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni, na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd; llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd, a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant.