Isaiah 65:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a'm hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta'r ffrwyth. Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau'n llawn waith eu dwylo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta. Bydd fy mhobl yn byw cyhyd choeden, a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo.