Isaiah 65:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin, a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo,’ felly y bydda i'n gwneud er mwyn fy ngweision — fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Fel pan geir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, 'Paid 'i ddinistrio, oherwydd y mae bendith ynddo', felly y gwnaf finnau er mwyn fy ngweision; ni ddinistriaf yr un ohonynt.