Isaiah 65:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a'm hetholedigion a'i hetifeddant, a'm gweision a drigant yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n rhoi disgynyddion i Jacob, a pobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda. Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn eu feddiannu, a bydd fy ngweision yn byw yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond paraf i epil ddod o Jacob, a rhai i etifeddu fy mynyddoedd o Jwda; bydd y rhai a ddewisaf yn eu hetifeddu, a'm gweision yn trigo yno.