Isaiah 66:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, mi a estynnaf iddi heddwch fel afon, a gogoniant y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol: yna y sugnwch, ar ei hystlys hi y'ch dygir, ac ar ei gliniau y'ch diddenir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n rhoi iddi heddwch perffaith fel afon, a bydd cyfoeth y cenhedloedd fel ffrwd yn gorlifo iddi. Byddwch yn cael sugno ei bronnau a'ch cario fel babi, ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Edrychwch, 'rwy'n estyn iddi heddwch fel afon, a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol. Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys, a'ch siglo ar ei gliniau.