Isaiah 66:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan weloch hyn, y llawenycha eich calon; eich esgyrn hefyd a flodeuant fel llysieuyn: ac fe adwaenir llaw yr ARGLWYDD tuag at ei weision, a'i lidiowgrwydd wrth ei elynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn, a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu. Bydd hi'n amlwg fod nerth yr ARGLWYDD gyda'i weision; ond ei fod wedi digio gyda'i elynion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cewch weld hyn, a bydd yn llawenydd i'ch calon, bydd eich holl gorff yn ffynnu fel llysieuyn; dangosir bod llaw yr ARGLWYDD gyda'i weision, a'i lid yn erbyn ei elynion.