Isaiah 66:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a ymsancteiddiant, ac a ymlanhânt yn y gerddi, yn ôl ei gilydd, yn y canol, gan fwyta cig moch, a ffieidd‐dra, a llygod, a gyd‐ddiweddir, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae hi ar ben ar bawb sy'n cysegru eu hunain a mynd trwy'r ddefod o ‛buro‛ eu hunain i ddilyn yr un yn y canol ac addoli yn y gerddi paganaidd, gan wledda ar gig moch a phethau ffiaidd eraill fel llygod,” meddai'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pawb sy'n ymgysegru ac yn eu puro eu hunain ar gyfer y gerddi, ac yn gorymdeithio trwyddynt, ac yn bwyta cig moch, ymlusgiaid, a llygod daw diwedd ar eu gwaith a'u bwriad," medd yr ARGLWYDD.