Isaiah 66:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gosodaf yn eu mysg arwydd, ac anfonaf y rhai dihangol ohonynt at y cenhedloedd, i Tarsis, Affrica, a Lydia, y rhai a dynnant mewn bwa, i Italia, a Groeg, i'r ynysoedd pell, y rhai ni chlywsant sôn amdanaf, ac ni welsant fy ngogoniant; a mynegant fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gosod arwydd yn eu canol nhw, ac anfon at y cenhedloedd rai o'r bobl fydd wedi llwyddo i ddianc: i Tarshish, at y Libiaid a'r Lydiaid (y rhai sy'n defnyddio bwa saeth); i Twbal, Groeg, a'r ynysoedd pell sydd heb glywed sôn amdana i na gweld fy ysblander i. Byddan nhw'n dweud wrth y cenhedloedd am fy ysblander i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gosodaf arwydd yn eu mysg, ac anfonaf rai o'u gwaredigion at y cenhedloedd, i Tarsis, Put, Lydia, Mesech, Tubal a Jafan, ac ynysoedd pell, na chlywsant sn amdanaf na gweld fy ngogoniant; a chyhoeddant hwy fy ngogoniant i'r cenhedloedd.