Isaiah 66:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddygant eich holl frodyr o blith yr holl genhedloedd, yn offrwm i'r ARGLWYDD, ar feirch, ac ar gerbydau, ac ar elorau meirch, ac ar fulod, ac ar anifeiliaid buain, i'm mynydd sanctaidd Jerwsalem, medd yr ARGLWYDD, megis y dwg meibion Israel offrwm mewn llestr glân i dŷ yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A byddan nhw'n dod â'ch perthnasau o'r gwledydd i gyd yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throlïau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd”—meddai'r ARGLWYDD—“yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr ARGLWYDD mewn llestr glân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dygant eich tylwyth i gyd o blith yr holl genhedloedd yn fwydoffrwm i'r ARGLWYDD; ar feirch, mewn cerbydau a gwageni, ar fulod a chamelod y dnt i'm mynydd sanctaidd, Jerwsalem," medd yr ARGLWYDD, "yn union fel y bydd plant Israel yn dwyn y bwydoffrwm mewn llestr gln i du375?'r ARGLWYDD.