Isaiah 66:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Minnau a ddewisaf eu dychmygion hwynt, ac a ddygaf arnynt yr hyn a ofnant: am alw ohonof, ac nid oedd a atebai; lleferais, ac ni wrandawsant: eithr gwnaethant yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg, a'r hyn nid oedd dda gennyf a ddewisasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
bydda i'n dewis eu cosbi nhw'n llym, a throi eu hofnau gwaetha yn realiti. Pan oeddwn i'n galw, wnaeth neb ateb; pan oeddwn i'n siarad, doedd neb yn gwrando. Roedden nhw'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dewisaf fi ofid iddynt, a dwyn arnynt yr hyn a ofnant; oherwydd pan elwais, ni chefais ateb, pan leferais, ni wrandawsant; gwnaethant bethau sydd yn atgas gennyf, a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd."