Isaiah 66:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwrandewch air yr ARGLWYDD, y rhai a grynwch wrth ei air ef; Eich brodyr y rhai a'ch casasant, ac a'ch gyrasant ar encil er mwyn fy enw i, a ddywedasant, Gogonedder yr ARGLWYDD: eto i'ch llawenydd chwi y gwelir ef, a hwynt a waradwyddir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi sy'n parchu beth mae'n ei ddweud! Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chi a'ch cau chi allan am sefyll drosta i. Maen nhw'n dweud yn wawdlyd: “Boed i'r ARGLWYDD gael ei anrhydeddu, i ni eich gweld chi'n cael eich gwneud yn hapus.” Ond byddan nhw'n cael eu cywilyddio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywch air yr ARGLWYDD, chwi sy'n parchu ei air: "Dywedodd eich tylwyth sy'n eich casu, ac sy'n eich gwrthod oherwydd fy enw, 'Bydded i'r ARGLWYDD gael ei ogoneddu, er mwyn i ni weld eich llawenydd.' Ond cywilyddir hwy.