Isaiah 66:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy a glybu y fath beth â hyn? pwy a welodd y fath bethau â hyn? A wneir i'r ddaear dyfu mewn un dydd? a enir cenedl ar unwaith? Pan glafychodd Seion, yr esgorodd hefyd ar ei meibion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na! Pwy glywodd am y fath beth? Pwy welodd rywbeth felly'n digwydd? Ydy gwlad yn geni plant mewn diwrnod? Ydy cenedl yn dod i fod mewn moment? Ond dyma Seion newydd ddechrau esgor ac mae eisoes wedi cael ei phlant!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A glywodd rhywun am y fath beth? A welodd rhywun rywbeth tebyg? A ddaw gwlad i fod mewn un dydd? A enir cenedl ar unwaith? Ond gyda bod Seion yn clafychu, bydd yn esgor ar ei phlant.