Isaiah 7:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â'r ellyn a gyflogir, sef â'r rhai o'r tu hwnt i'r afon, sef â brenin Asyria, y pen, a blew y traed; a'r farf hefyd a ddifa efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny, bydd y Meistr yn defnyddio'r rasel mae wedi ei llogi yr ochr draw i Afon Ewffrates (sef brenin Asyria) i siafio'r pen a'r blew ar y rhannau preifat; a bydd yn siafio'r farf hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD, ag ellyn a logwyd y tu hwnt i'r Ewffrates, brenin Asyria, yn eillio'r holl ben a blew'r traed, a thorri ymaith y farf hefyd.