Isaiah 7:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remaleia:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio — dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywed wrtho, 'Bydd ofalus, cadw'n dawel a phaid ag ofni; paid digalonni o achos y ddau stwmp hyn o bentewynion myglyd, am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia yn llosgi gan lid.