Isaiah 9:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali, ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i'r Iorddonen, yn Galilea y cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond fydd y tywyllwch ddim yn para i'r tir aeth drwy'r fath argyfwng! Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon a thir Nafftali eu cywilyddio; ond yn y dyfodol bydd Duw yn dod ag anrhydedd i Galilea'r Cenhedloedd, ar Ffordd y Môr, a'r ardal yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu camdrin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar l hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y mr, dros yr Iorddonen.