Isaiah 9:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y Syriaid o'r blaen, a'r Philistiaid hefyd o'r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin — Roedd eu cegau'n llydan agored, a dyma nhw'n llyncu tir Israel. Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewin yn ysu Israel a'u safnau'n agored. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.