Isaiah 9:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny nid ymlawenha yr ARGLWYDD yn eu gwŷr ieuainc hwy, ac wrth eu hamddifaid a'u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohonynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam nad ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda'r bobl ifanc; Dydy e ddim yn gallu cysuro'r plant amddifad a'r gweddwon. Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg; maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl. Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny nid arbed yr ARGLWYDD eu gwu375?r ifainc, ac ni thosturia wrth eu hamddifaid na'u gweddwon. Y mae pob un ohonynt yn annuwiol a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.