Isaiah 9:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Manasse, Effraim; ac Effraim, Manasse: hwythau ynghyd yn erbyn Jwda. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Manasse'n ymosod ar Effraim ac Effraim ar Manasse, a'r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda! Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Manasse Effraim, ac Effraim Manasse, ac ill dau yn erbyn Jwda. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.