Isaiah 9:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar helaethrwydd ei lywodraeth a'i dangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef, i'w threfnu hi, ac i'w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder, o'r pryd hwn, a hyd byth. Sêl ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu, a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw i orsedd Dafydd a'i deyrnas. Bydd yn ei sefydlu a'i chryfhau a teyrnasu'n gyfiawn ac yn deg o hyn allan, ac am byth. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth, i'w sefydlu'n gadarn barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd sl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.