James 1:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegid mal pan gyvottor haul yn y gwres, yna y gwywa’r llysiewyn, ac i cwympa i vlodeuyn, ac a gyll tegwch eu bryd ef: ac velly y difladna’r cywaithog ynghwbyl oy ffyrdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys cyfodi y mae’r haul gyda’r gwynt poeth, ac yn sychu i fynu y glaswelltyn; a’i flodeuyn ef sy’n syrthio, a thegwch ei bryd yn darfod am dano; felly hefyd y goludog yn ei fynediadau y gwywa.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys, wele, cyfyd yr haul gyda’i fawr wres, a pheri crino o’r borfa, a chwympo o’i blodeuyn ymaith, a difetha glendid ei bryd ef. Felly yntau’r cyfoethog, edwina yn ei fyned a’i ddyfod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a'i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yn ei ffyrdd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i'r haul tanbaid grino'r glaswellt mae'r blodyn yn syrthio a'i harddwch yn diflannu. Dyna'n union fydd yn digwydd i bobl gyfoethog — marw yng nghanol eu busnes!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr haul yn codi yn ei wres tanbaid, a bydd y glaswellt yn crino, ei flodeuyn yn syrthio, a thlysni ei wedd yn darfod. Felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yng nghanol ei holl fynd a dod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys cyfododd yr haul gyda'r gwynt poeth, ac a ddeifiodd y glaswelltyn, a'i flodeuyn a syrthiodd ymaith, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y goludog a wywa ymaith yn ei orchwylion.