James 1:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Happus ywr gwr, a ym oddef profedigaeth: canys pan vo prawedig, i cayff coron y bowyd, ron a addawodd yr Arglwyddir rrai ay caro ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef temtasiwn; canys wedi myned yn brofedig, caiff goron y bywyd, yr hon a addawodd Efe i’r rhai sydd yn Ei garu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyn ei fyd y gŵr a ddalio dan brofedigaeth; canys pan fo profedig y derbyn goron y bywyd a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i caro ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i carant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhai sy'n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw. Ar ôl mynd drwy'r prawf byddan nhw'n cael eu coroni â'r bywyd mae Duw wedi ei addo i'r rhai sy'n ei garu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn ei fyd y sawl sy'n dal ei dir mewn temtasiwn, oherwydd ar l iddo fynd trwy'r prawf fe gaiff, yn goron, y bywyd a addawodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn ei garu ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth, canys wedi dal y prawf, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef.