James 1:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na ddoydet neb pan profer ef, y brofi can Ddyw: can ys ni ellir profi Dyw a drwg, ac nid yw ef yn profi neb.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na fydded i neb, pan y’i temtir, ddywedyd, Oddiwrth Dduw y’m temtir; canys Duw, heb Ei demtio gan ddrygau y mae, ac nid yw Efe yn temtio neb;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na ddyweded neb, pan brofer ef: “o Dduw y’m temtir” canys Duw ni ellir ei demtio â drygau, ac yntau nid yw yn temtio neb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y'm temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A ddylai neb ddweud pan mae'n cael ei brofi, “Duw sy'n fy nhemtio i.” Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni ddylai neb sy'n cael ei demtio ddweud, "Oddi wrth Dduw y daw fy nhemtasiwn"; oherwydd ni ellir temtio Duw gan ddrygioni, ac nid yw ef ei hun yn temtio neb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na ddyweded neb pan demtier ef, Oddiwrth Dduw y'm temtir, canys Duw sydd amhosibl ei demtio gan ddrygau, ac nid yw efe ei hun yn temtio neb;