James 1:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o ddyna gwedi i trachwant gydynnyll, braguro pechod a wna: eithr pechod pan o’rphenner a ddirollwng varvolaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi hyny chwant, wedi ymddwyn, sy’n esgor ar bechod; a phechod, wedi ei orphen, sy’n esgor ar farwolaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna bydd chwant, wedi ymddwyn, yn esgor ar bechod, a phechod, wedi llawn dyfu, yn dwyn marwolaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna chwant, wedi ymddŵyn, a esgor ar bechod: pechod hefyd, pan orffenner, a esgor ar farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, a'r gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, y mae chwant yn beichiogi ac yn esgor ar bechod, ac y mae pechod, ar l cyrraedd ei lawn dwf, yn cenhedlu marwolaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna Chwant wedi beichiogi a esgor ar Bechod, a Phechod, wedi dyfod i'w lawn dŵf, a esgor ar Farwolaeth.