James 1:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pob roddiat dayonus, a phob rroð berffaith, o ddifyny dd y may, ac a ddiscin o iwrth tad y goleuaday, gidar hwn ni does trasymedigaeth, na chyscodiad troedigaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob rhoddiad da, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dad y goleuadau, gyda’r Hwn nid oes cyfnewidiad na chysgod tröedigaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd gyflawn, oddi uchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dad y goleuadau, na ddichon bod ynddo na chyfnewidiad na chysgod yn herwydd troi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydy'r Tad a greodd y sêr a'r planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn taflu cysgodion tywyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith. Disgyn y maent oddi wrth Dad goleuadau'r nef; ac iddo ef ni pherthyn na chyfnewid na chysgod troadau'r rhod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob rhoddiad da a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dâd y Goleuadau, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad na chysgod a gyfyd o gylchdroad.