James 1:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O achos hyn fymrodyr caredigion, bid pob dyn ebrwydd y wrandaw, diog i ddoyded, a’ diog i ddigofaint.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyddoch hyn, fy mrodyr anwyl; ond bydded pob dyn yn esgud i glywed, yn hwyrfrydig i lefaru, yn hwyrfrydig i ddigofaint;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwybyddwch hyn, fy mrodyr annwyl. Ond bydded pob dyn esgud i wrando, araf i lefaru, araf i ddigofaint,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gallwch fod yn hollol siŵr o'r peth, frodyr a chwiorydd. Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ystyriwch, fy nghyfeillion annwyl. Rhaid i bob un fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru, ac yn araf i ddigio,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyddoch hyn fy anwyl frodyr; ond bydded pob un yn gyflym i wrandaw, yn araf i lefaru, yn araf i ddigofaint;