James 1:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hynny rrowch heibio pob budreddi, a phob rrysseð malais, a’ thrwy vfuddtra d erbyniwch yr impiedic air, rrwn a ðichin iachau ych eneidiau. Yr Epistol y v. Sul gwedy y Pasc
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd paham, gan roddi ymaith bob budreddi a helaethrwydd drygioni, gydag addfwynder derbyniwch y Gair a blannwyd ynoch, yr hwn sydd abl i gadw eich eneidiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, gan roddi heibio bob aflendid a helaethrwydd drygioni, mewn addfwynder derbyniwch y gair, sydd ynoch yn gynhenid ac a ddichon gadw eich eneidiau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly rhaid cael gwared â phob budreddi a'r holl ddrygioni sy'n rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wedi ei phlannu yn eich calonnau chi — dyna'r neges sy'n eich achub chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymaith gan hynny phob aflendid, ac ymaith 'r drygioni sydd ar gynnydd, a derbyniwch yn wylaidd y gair hwnnw a blannwyd ynoch, ac sy'n abl i achub eich eneidiau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd paham gan roddi heibio bob budreddi ac amlder drygioni, mewn addfwynder derbyniwch y Gair a blannwyd ynoch, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.