James 1:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A byddwch wneuthyrwyr y gair, ac nid yn vnic gwrandawyr, yn ych twyllaw ych hunain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond byddwch wneuthurwyr y Gair, ac nid gwrandawyr yn unig, yn twyllo eich hunain;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich camarwain eich hunain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo'ch hunain ydy peth felly!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch yn weithredwyr y gair, nid yn wrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr byddwch yn wneuthurwyr y Gair ac nid gwrandawyr yn unig, gan dwyllo eich hunain.